Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (18) |
1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 5 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 6 ac 11 eu grwpio.
14.18
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Trosglwyddwyd cwestiwn 4 i’w ateb yn ysgrifenedig gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy. Trosglwyddwyd cwestiwn 8 i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Prif Weinidog.
15.05
Pwynt o Drefn
Cododd Jeff Cuthbert Bwynt o Drefn ynghylch araith Lindsay Whittle lle cyfeiriodd at dref yn ei “etholaeth” yn hytrach na’i “ranbarth” – gan gofio mai ef yw’r Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru yn hytrach na’r Aelod etholaeth. Ymddiheurodd Lindsay Whittle a thynnodd y sylw yn ei ôl. Atgoffodd y Dirprwy Lywydd yr Aelodau unwaith eto am nodyn y Llywydd ynghylch sut y dylai Aelodau gyfarch ei gilydd, fel sydd wedi’i nodi yn Rheol Sefydlog 1.10 a’r ‘Cod ar Wahanol Rolau a Chyfrifoldebau Aelodau Etholaeth ac Aelodau Rhanbarthol’. Nododd y Dirprwy Lywydd y maddeuir i Aelodau sy’n camddisgrifio eu rolau yn anfwriadol i raddau. Fodd bynnag, ni chaniateir dryswch bwriadol, nac unrhyw ymgais i drin y rheol fel un dibwys.
15.07
3. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4810 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
a) Cydnabod potensial busnesau bach a chanolig i dyfu economi Cymru;
b) Creu’r amodau angenrheidiol ar gyfer mwy o weithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru; ac
c) Cynnig cymorth sy’n diwallu anghenion busnesau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
5 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
16.04
4. Dadl Plaid Cymru
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4812 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn credu bod Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda gan ei rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth; ac
2) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol ganoli gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
45 |
57 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2, dileu “wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol ganoli gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth” ac yn ei le rhoi “gefnogi Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn modd priodol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
23 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod cleifion yn cael eu gwasanaethu orau gan wasanaethau a ddarperir mor agos â phosibl at gartrefi’r cleifion, ac sy’n ddiogel yn glinigol, gan ddefnyddio rhwydwaith o ysbytai cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a chanolfannau rhagoriaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
2 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, pan gaiff ei sefydlu, ystyried anghenion Ysbytai Cyffredinol Dosbarth wrth aildrefnu’r GIG yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
6 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn credu bod Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda gan ei rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth; ac
2) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn modd priodol.
3) Yn credu bod cleifion yn cael eu gwasanaethu orau gan wasanaethau a ddarperir mor agos â phosibl at gartrefi’r cleifion, ac sy’n ddiogel yn glinigol, gan ddefnyddio rhwydwaith o ysbytai cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a chanolfannau rhagoriaeth.
4) Yn credu y dylai’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, pan gaiff ei sefydlu, ystyried anghenion Ysbytai Cyffredinol Dosbarth wrth aildrefnu’r GIG yn y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
23 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
17.07
5. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4811 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Chronfa Swyddi Cymru yn canolbwyntio ar gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth yn y sector preifat.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
52 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn lle “yn canolbwyntio ar gyfleoedd”, rhoi “yn cynnwys cyfleoedd”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
17 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant
1
Gwelliant 2
- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘yn y sector preifat’ a rhoi yn ei le ‘yn unol â’r Rhaglen Adnewyddu’r Economi’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
17 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod cyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru wedi gweld gostyngiad o 3.7% rhwng mis Mehefin 2010 a mis Mehefin 2011, y gostyngiad mwyaf yn y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda chyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant i ganfod cyfleoedd drwy Gronfa Swyddi Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai i helpu i gynyddu effaith Cronfa Swyddi Cymru a helpu i greu swyddi parhaol yn y sector preifat.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
45 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Chronfa Swyddi Cymru yn cynnwys cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth yn unol â’r Rhaglen Adnewyddu’r Economi.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda chyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant i ganfod cyfleoedd drwy Gronfa Swyddi Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
5 |
0 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
18.02
Cyfnod pleidleisio
18..09
6. Dadl Fer
NDM4809 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):
Yr Anabledd Cudd – Materion Clyw yng Nghymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18:36
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 on Dydd Mawrth, 4 Hydref 2011